Cyfrwng rhwydweithio a chydweithio arloesol rhwng mentrau cymunedol

Cryfder ar y cyd / Strength in unity
Antur Aelhaearn Antur Nantlle Antur Stiniog cyf. Antur Waunfawr Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd Cwmni Bro Ffestiniog Cwmni Nod Glas Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) Dref Werdd Galeri, Caernarfon GwyrddNi Llety Arall Menter Felinheli Menter Iaith Gwynedd Menter Ty’n Llan, Llandwrog Menter Y Plu, Llanystumdwy Menter Y Tŵr, Pwllheli O Ddrws i Ddrws Partneriaeth Ogwen Pengwern Cymunedol Plas Carmel Seren Sylfaen Cymunedol Tafarn yr Heliwr Ymddiriedolaeth Ynys Enlli Ynni Cymunedol Cymru Ynni Llŷn Yr Orsaf, Penygroes
Ein pwrpas

Mae Cymunedoli Cyf yn ysbrydoli cymunedau i gredu, i greu ac i gynnal. Rydym yno i gefnogi’r gymuned i berchenogi a rheoli adnoddau yn lleol.

Cymuned o Gymunedau

Mae manteision rhwydweithio eisoes wedi dod i’r amlwg drwy dystiolaeth gan y mentrau, sy’n profi ein cryfder ar y cyd. Mae’r ffigyrau hyn, wedi’i casglu gan 26 menter yn 2023, yn werth cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i’r mentrau cymunedol, yn ogystal â bod yn fuddiol i Gymru gyfan.

Asedau gwerth

£43.2m

Cyfanswm trosiant o

£13.56m

239

person llawn amser wedi’ cyflogi

215

person rhan amser wedi’ cyflogi

536

o wirfoddolwyr

Cryfhau ein cymunedau Cymreig

Fel rhwydwaith o fentrau a busnesau cymunedol, mae Cymunedoli Cyf yn:

  • gwneud datblydiadau cymunedol
  • helpu i gryfhau’r economi
  • rhedeg cynlluniau trafnidiaeth gymunedol
  • cynhyrchu ynni
  • cydweithio gyda thafarndai
  • cynnig cefnogaeth yn y maes gofal cymdeithasol

Creu cymunedau llewyrchus ac annibynnol

Heddiw, mae mentrau a busnesau cymunedol yn cynnig ffordd wahanol i ddatblygu’n economaidd. Rydym yn gweithio ar lawr gwlad i gefnogi pobl i fod yn berchnogion ar asedau cymunedol ac ymuno â gwahanol brosiectau. 

Mae Cymunedoli Cyf yn llais i’r mentrau ac yn ffynnu ar gryfhau ein cymunedau Cymreig.