Amdanom ni
Mae Cymunedoli Cyf yn fudiad o fentrau cymdeithasol sydd yn hyrwyddo mentergarwch cymunedol.
Rydym yn helpu pobl ar lawr gwlad yn ein cymunedau i gymryd cyfrifoldeb dros eu dyfodol ac yn cynnig arewiniad a chefnogaeth ar hyd y ffordd yn ogystal â chyflwyno’r term “cymunedoli” i eraill.
Beth ydi Cymunedoli Cyf?
Mae’r gair cymunedoli yn esbonio’i hun: Ein cymunedau yn perchenogi a rheoli ein hadnoddau a’n llafur er budd ein cymunedau. Mae hyn yn osgoi ein cymunedau yn cael eu hecsploetio er budd eraill fel sydd wedi digwydd cyhyd yn hanes Cymru.
Mae Cymunedoli Cyf yn gyfrwng rhwydweithio a chydweithio arloesol a chyffrous rhwng mentrau cymunedol.
Dechreuodd y cyfan fel cyfres o sgyrsiau anffuriol yn ystod haf 2022. Canlyniad y sgyrsiau oedd bod angen i fentrau cymunedol ar draws Gwynedd sefydlu rhwydwaith. Byddai’r rhwydwaith yn cefnogi ymdrechion ein gilydd, cryfhau’r achos dros gymunedoli ar draws y Sir, a helpu’r economi leol. Erbyn gwanwyn 2023 ffurfwyd y rhwydwaith fel cwmni a menter gymunedol, sef Cymunedoli Cyf.
mentrau
bobl
cysylltiadau
Gweledigaeth ehangach
Drwy’r broses o gymunedoli elfennau sylweddol o’r economi, mae gan ein cymunedau botensial, o dipyn i beth, i brofi nad ydym yn rhy fach, rhy dlawd na rhy dwp i greu cymunedau cryf a chynaladwy, sy’n ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn anelu i gael yr effaith ganlynol ar y gymuned:
Sut allwn ni helpu?
Mae Cymunedoli Cyf yn gweithio ar lawr gwlad efo cymunedau. Rydym yna i’w grymuso a’u datblygu, gan gynnig gwybodaeth ac arweiniad yn ogystal ag anelu i gryfhau’r apêl o gymunedoli i eraill. Ein nod yw cynnig cefnogaeth ac anogaeth, gwybodaeth a gobaith i gymunedau a mentrau cymunedol.
Dyma’r math o bethau allwn ni ei gynnig i’ch helpu chi:
- Rhannu gwybodaeth a phrofiad
- Cynnig cyngor ac arweiniad ar hyd y daith
- Rhannu adnoddau
- Cynnal fforwm o fentrau i rannu profiadau a syniadau
- Eich rhoi mewn cyswllt â mentrau eraill
- Helpu gyda threfnu/cynnal gweithgareddau a digwyddiadau
- Hyrwyddo mentrau a lledaenu’r gair
- Llais ar ran y mentrau cymunedol wrth ddelio gydag awdurdodau / llywodraeth
Hoffech chi ddod yn rhan o’r rhwydwaith?